Neidio i'r cynnwys

Telangana

Oddi ar Wicipedia
Telangana
Mathtalaith India Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlTri, linga Edit this on Wikidata
LL-Q8097 (tel)-ప్రశాంతి-తెలంగాణ.wav Edit this on Wikidata
PrifddinasHyderabad Edit this on Wikidata
Dinas fwyafHyderabad Metropolitan Region Edit this on Wikidata
Poblogaeth35,193,978 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 2 Mehefin 2014 Edit this on Wikidata
AnthemJaya Jaya he Telangana Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethRevanth Reddy, K. Chandrashekar Rao Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Telwgw, Wrdw Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSouth India Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd112,077 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr984 troedfedd Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMaharashtra, Andhra Pradesh, Karnataka, Chhattisgarh Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau17.9°N 79.3°E Edit this on Wikidata
Cod post50 Edit this on Wikidata
IN-TS Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolGovernment of Telangana Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholLegislature of Telangana Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethJishnu Dev Varma, Shiv Pratap Shukla, E. S. L. Narasimhan, Tamilisai Soundararajan, C. P. Radhakrishnan Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Chief Minister of Telangana Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethRevanth Reddy, K. Chandrashekar Rao Edit this on Wikidata
Map

Un o 29 talaith India yw Telangana, a leolir yn ne'r wlad. Mae ganddi arwynebedd o 111,840 km sg. (44,340 milltir sg.) a phoblogaeth o 35,193,978 (cyfrifiad 2011 ).[1], sy'n golygu mai hi yw'r ddeuddegfed dalaith fwyaf yn India o ran ei maint a'i phoblogaeth. Mae ei dinasoedd pwysicaf yn cynnwys Hyderabad, Warangal, Nizamabad, Khammam a Karimnagar. Mae'n ffinio ar daleithiau Maharashtra i'r gogledd a'r gogledd-orllewin, Chhattisgarh i'r gogledd, Karnataka i'r gorllewin ac Andhra Pradesh i'r dwyrain a'r de.[2]

Cafodd Telangana ei hunaniaeth fel yr ardal Delwgw yn nhalaith dywysogaidd Hyderabad, dan reolaeth Nizam Hyderabad,[3] gan ymuno ag Undeb India ym 1948. Ym 1956, diddymwyd talaith Hyderabad fel rhan o ddeddf ad-drefnu'r taleithiau yn ôl eu hieithoedd a chyfunwyd Telangana â'r gyn-dalaith Andhra er mwyn creu Andhra Pradesh. Yn dilyn mudiad i ymwahanu, daeth Telangana yn dalaith ar wahân ar 2 Mehefin 2014. Hyderabad fydd prifddinas Telangana ac Andhra Pradesh ar y cyd am gyfnod o ddim mwy na deg mlynedd.[6]

Lleoliad Telangana yn India
Charminar yn Hyderabad

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Population". Government of Telangana. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2015.
  2. ↑ "Administrative and Geographical Profile" (PDF). Telangana State Portal. Cyrchwyd 14 Gorffennaf 2014.
  3. ↑ Liam D. Anderson (2013). Federal Solutions to Ethnic Problems: Accommodating Diversity. Routledge. tt. 173–. ISBN 978-0-415-78161-9.
Eginyn erthygl sydd uchod am India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.


Taleithiau a thiriogaethau India
Taleithiau Andhra Pradesh • Arunachal Pradesh • Assam • Bihar • Chhattisgarh • Goa • Gorllewin Bengal • Gujarat • Haryana • Himachal Pradesh • Jharkhand • Karnataka • Kerala • Madhya Pradesh • Maharashtra • Manipur • Meghalaya • Mizoram • Nagaland • Orissa • Punjab • Rajasthan • Sikkim • Tamil Nadu • Telangana • Tripura • Uttarakhand • Uttar Pradesh
Tiriogaethau Ynysoedd Andaman a Nicobar • Chandigarh • Dadra a Nagar Haveli • Daman a Diu • Delhi • Jammu a Kashmir • Lakshadweep • Puducherry