Octans
Gwedd
| Enghraifft o: | cytser |
|---|---|
| Dyddiad darganfod | 1752 |
| Rhan o | hemisffer wybrennol y de |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/05mk4 |
Cytser pŵl a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y de yw Octans. "Octans" yw'r gair Lladin am "octant" (dyfais optegol a ddefnyddiwyd gan fordwywyr). Fe'i henwyd yn "L’Octans de Reflexion" yn 1756 gan y seryddwr o Ffrancwr Nicolas Louis de Lacaille. Yn ddiweddarach newidiodd Lacaille yr enw i'r gair Lladin Octans.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922. Lleolir pegwn wybrennol y de o fewn y cytser hwn.
