Neidio i'r cynnwys

Castellnewydd Emlyn

Oddi ar Wicipedia
Castellnewydd Emlyn
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,146, 973, 1,184 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.04°N 4.47°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000549 Edit this on Wikidata
Cod OSSN305405 Edit this on Wikidata
Cod postSA38 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y SeneddSir Gaerfyrddin
Etholaeth y DUJonathan Edwards (Annibynnol)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Castellnewydd Emlyn o'r awyr

Tref farchnad a chymuned yng ngogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin yw Castellnewydd Emlyn[1] (neu Castellnewi fel y'i gelwir yn lleol); ceir y ffurf Castell Newydd Emlyn hefyd. Saif ar lan ddeheuol Afon Teifi. Weithiau ystyrir pentref Adpar, ar y lan ogleddol yng Ngheredigion, yn rhan o'r dref hefyd, er bod gan Adpar hanes hir fel hen fwrdeistref o fewn Ceredigion. Yno y saif Castell Trefhedyn, hen domen o'r Oesoedd Canol.

Y castell
Llun manwl

Safai Castellnewydd Emlyn yng nghantref Emlyn, ac fe'i henwir ar ôl y cantref hwnnw. Adeiladwyd y castell, sydd nawr yn adfeilion, gan y Normaniaid. Cafodd ei chyfeirio ati gyntaf ym Mrut y Tywysogion ym 1215 pan gipwyd hi gan Llywelyn ap Iorwerth[2].

Ymwelodd Gerallt Gymro ag Emlyn yn ystod ei daith trwy Gymru ym 1188.

Bellach, mae Castellnewydd Emlyn yn dref farchnad brysur.

Cyfleusterau ac atyniadau

[golygu | golygu cod]
Tîm criced Castellnewydd Emlyn yn 1893. Ffotograff o gasgliad John Thomas.

Yn y dref mae neuadd tref, oriel gelf, theatr (Attic Theatre) ac ysgol uwchradd (Ysgol Gyfun Emlyn). Lleolir Amgueddfa Wlân Cymru a Rheilffordd Dyffryn Teifi gerllaw.

Yn wahanol i nifer o drefydd gwledig Cymru, mae Castellnewydd Emlyn wedi llwyddo i gadw ystod helaeth o wasanaethau lleol, ar ffurf busnesau teuluol yn bennaf. Lleolir y dref mewn ardal amaethyddol, ac adlewyrchir hyn gan gyflogwr mwyaf y dref, sef ffatri Saputo sy'n cynhyrchu caws Mozzarella. Maen nhw'n un o'r cynhyrchwyr mwyaf o gaws Mozzarella ym Mhrydain.

Y Gymraeg

[golygu | golygu cod]

Hyd at y 1960au, roedd ymhell dros 90% o boblogaeth Castellnewydd Emlyn yn Gymry Cymraeg a'r Gymraeg oedd iaith gwaith ac aelwyd yn y dref. Ond fel mewn sawl rhan arall o'r wlad cafwyd mewnlifiadau sylweddol o bobl o'r tu allan i Gymru, Saeson yn bennaf, ac mae sefyllfa'r iaith wedi newid o ganlyniad. Er hynny, erys y Gymraeg yn iaith y mwyafrif, sef tua 69% o'r boblogaeth o 941, ac fe'i siaredir gan 90% o'r bobl yno a anwyd yng Nghymru (Cyfrifiad 2001).

Gwiber Castellnewydd Emlyn

[golygu | golygu cod]

Mae chwedl Gwiber Castellnewydd Emlyn yn adrodd hanes gwiber ffyrnig gydag adain, a oedd yn anadlu tân a mwg, yn glanio ar furiau'r castell a disgyn i gysgu yno. Ymledodd ofn i gychwyn, ond yn fuan dechreuodd pobl y dref gynllwynio i ddinistrio'r bwystfil. Dyfeisiodd milwr gynllun i rydio i Afon Teifi a cheisio saethu'r Wiber mewn rhan gwan o'i gorff. Disgynnodd y Wiber i'r afon wedi iddo gael ei saethu, gwenwynwyd yr afon gan y corff a lladdwyd yr holl bysgod.[3]

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Castellnewydd Emlyn (pob oed) (1,184)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Castellnewydd Emlyn) (611)
  
53.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Castellnewydd Emlyn) (767)
  
64.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Castellnewydd Emlyn) (195)
  
38.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Pobl o Gastellnewydd Emlyn

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Dau air yn ôl [Dictionary of Place-names of Wales gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan]
  2. ↑ The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines and Peredur Lynch (2008) pg609 ISBN 9780708319536
  3. ↑ Newcasle Emlyn Millennium Edition Historical Notes About Our Town pp10, Pamela Jenkins (1999) Castle Publications
  4. ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-02. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]