Toby Jones
| Toby Jones | |
|---|---|
| Ganwyd | Tobias Edward Heslewood Jones 7 Medi 1966 Llundain |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | actor, actor llais, actor llwyfan, actor ffilm, sgriptiwr, actor teledu |
| Adnabyddus am | The Messenger: The Story of Joan of Arc, Finding Neverland, The Painted Veil, Captain America: The First Avenger, Normandie Nue |
| Taldra | 1.65 metr |
| Tad | Freddie Jones |
| Mam | Jennie Heslewood |
| Gwobr/au | Laurence Olivier Award for Best Actor in a Supporting Role, Gwobr BIFA am Berfformiau Gorau gan Actor Mewn Ffilm Brydeinig Annibynnol, Golden Nymph for Outstanding Actor in a Television Film, OBE |
Actor o Loegr yw Toby Edward Heslewood Jones (ganwyd 7 Medi 1966). Fe'i ganwyd Hammersmith, Llundain, yn fab i'r actor Freddie Jones a'r actores Jennifer Jones (née Heslewood).[1] Astudiodd ddrama ym Mhrifysgol Manceinion (1986–9) a L'École Internationale de Théâtre Jacques Lecoq, Paris (1989–91). Mae wedi cael gyrfa lewyrchus yn bennaf ym myd ffilm a theledu, ond hefyd yn cynnwys perfformiadau llwyfan a gafodd dderbyniad da.
Mae wedi ymddangos mewn dros 80 o ffilmiau mawr, gan gynnwys rôl Truman Capote yn y ffilm fywgraffyddol Infamous (2006), a rhannau blaenllaw yn Berberian Sound Studio (2013), Dad's Army (2016) a Mr Burton (2025)[2]. Mae wedi ymgymryd â llawer o rolau pwysig mewn dramâu teledu, gan gynnwys Alfred Hitchcock yn The Girl (2012), Lance yn y gyfres gomedi Detectorists (2014–17), a'r is-bostfeistr Alan Bates yn Mr Bates vs The Post Office (2024).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "'I'm very aware of being public school now. All those things you loathe': Toby Jones on class, character and the cost of fame". The Guardian (yn Saesneg). 16 Rhagfyr 2023. Cyrchwyd 4 Ionawr 2024.
- ↑ "Mr Burton". Ffilm Cymru. Cyrchwyd 8 Mai 2025.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Toby Jones ar IMDb

