The Artist
| The Artist | |
|---|---|
Logo'r ffilm | |
| Cyfarwyddwyd gan | Michel Hazanavicius |
| Cynhyrchwyd gan | Thomas Langmann |
| Awdur (on) | Michel Hazanavicius |
| Yn serennu | Jean Dujardin Bérénice Bejo |
| Cerddoriaeth gan | Ludovic Bource |
| Sinematograffi | Guillaume Schiffman |
| Golygwyd gan | Anne-Sophie Bion Michel Hazanavicius |
| Stiwdio | La Petite Reine ARP Sélection Studio 37 La Class Americane France 3 Cinema U Film Jouror Productions JD Prod Wild Bunch |
| Dosbarthwyd gan | Warner Bros. (Ffrainc) The Weinstein Company (UDA/Awstralia) Entertainment Film Distributors (DU) |
| Rhyddhawyd gan | 15 Mai 2011 (Cannes) 12 Hydref 2011 (Ffrainc) |
| Hyd y ffilm (amser) | 100 munud |
| Gwlad | Ffrainc |
| Iaith | Mud Teitlau Saesneg |
| Cyfalaf | $15 miliwn |
| Gwerthiant tocynnau | $133,432,856[1] |
Ffilm gomedi ramantaidd Ffrengig yw The Artist a ryddhawyd yn 2011, a gyfarwyddwyd gan Michel Hazanavicius ac yn serennu Jean Dujardin a Bérénice Bejo. Lleolir yn Hollywood rhwng 1927 a 1932 ac mae'n canolbwyntio ar y berthynas rhwng seren ffilm fud ac actores ifanc wrth i ffilmiau sain ddod yn boblogaidd. Mae mwyafrif y ffilm yn fud, heblaw am drac sain cerddorol.
Yng Ngwobrau Ffilm yr Academi Brydeinig, enillodd The Artist saith gwobr: Ffilm Orau, Cyfarwyddwr Gorau, Actor Gorau (Dujardin), Sgript Wreiddiol Orau, Sinematograffeg, Dylunio Gwisgoedd, a Sgôr Wreiddiol. Enillodd tri Golden Globe: Ffilm Orau (Sioe gerdd neu Gomedi), Actor Gorau (Sioe gerdd neu Gomedi), a Sgôr Gerddorol Orau. Yn 84fed seremoni wobrwyo yr Academi, enillodd y ffilm pump Oscar: Ffilm Orau, Cyfarwyddwr Gorau, Actor Gorau, Dylunio Gwisgoedd, a Sgôr Wreiddiol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "The Artist (2011)". Box Office Mojo. Cyrchwyd 23 Mehefin 2012.