Paula Fox
| Paula Fox | |
|---|---|
| Ganwyd | 22 Ebrill 1923 Dinas Efrog Newydd |
| Bu farw | 1 Mawrth 2017 Brooklyn |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cyfieithydd, nofelydd, awdur plant, ysgrifennwr |
| Adnabyddus am | The Slave Dancer |
| Arddull | llenyddiaeth plant |
| Tad | Paul Hervey Fox |
| Mam | Elsie Fox |
| Priod | Martin Greenberg |
| Plant | Linda Carroll |
| Perthnasau | Frances Bean Cobain, Courtney Love |
| Gwobr/au | Medal Newbery, Cymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Zilveren Griffel, Gwobr Hans Christian Andersen |
Awdures Americanaidd oedd Paula Fox (22 Ebrill 1923 - 1 Mawrth 2017) sy'n cael ei chofio am ei gwaith fel cyfieithydd, nofelydd ac awdur plant. Am ei gwaith fel awdures llyfrau plant, derbyniodd Gwobr Hans Christian Andersen, 1978. Yn 1974 enillodd Wobr Newbery am ei nofel The Slave Dancer a dilynwyd hynny gan nifer o wobrwyon eraill.
Aeth ei nofelau i oedolion allan o brint ym 1992. Yng nghanol y 1990au daeth bri ar ei gwaith unwaith yn rhagor, gan fod cenhedlaeth newydd o awduron Americanaidd yn hyrwyddo ei ffuglen i oedolion.[1]
Magwraeth gan ei nain
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed yn Ninas Efrog Newydd ar 22 Ebrill 1923; bu farw yn Brooklyn.
Daeth ei mam, Elsie De Sola, o Ciwba, ac roedd yn awdur sgriptiau; ysgrifennodd ei thad, Paul Hervey Fox, hefyd sgriptiau a dysgodd Saesneg. Ar ôl iddo ysgaru Elsie, cafodd 3 mab a merch gyda'i ail wraig, Mary.
Gwrthododd Elsie De Sola Fox ei merch Paula ar awr yr enedigaeth, a gadawodd hi mewn cartref i blant amddifad. Ond ymwelodd ei mam-gu, mam Candelaria de Sola, yn ysbeidiol, pan oedd yn Ninas Efrog, ei hachub a chafodd ei symud o gwmpas Florida, Ciwba a'r Unol Daleithiau. Nid oedd yn gallu darparu cartref iddi'i hun, oherwydd ei thlodi, felly rhoddodd Candelaria y baban i'r Parchedig Elwood Corning a'i fam fregus yn Balmville, Efrog Newydd.[2][3][4][5][6][7]
Priododd Martin Greenberg ac mae Linda Carroll yn blentyn iddi.
Y llenor
[golygu | golygu cod]Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: The Slave Dancer.
Mynychodd Fox Brifysgol Columbia a phriododd Richard Sigerson, i ddechrau, a chawsant ddau fab. Yn ddiweddarach priododd y beirniad llenyddol a'r cyfieithydd Martin Greenberg, a gweithiodd am flynyddoedd fel athrawes a thiwtor ar gyfer plant bregus. Dim ond yn ei 40au y sgwennodd ei nofel gyntaf, Poor George, stori am athro ysgol sinigaidd sy'n dod o hyd i bwrpas mewn bywyd wrth fentora person ifanc yn ei arddegau.
Aelodaeth
[golygu | golygu cod]Bu'n aelod o Academi Celfyddydau a Llythyrau America am rai blynyddoedd. [8][9]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal Newbery (1974), Cymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Zilveren Griffel (1976), Gwobr Hans Christian Andersen (1978)[10][11] .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Edemariam, Aida (21 Mehefin 2003). "A qualified optimist". The Guardian. Cyrchwyd 23 Mehefin 2011.
- ↑ Cyffredinol: Bibliothèque nationale de France (yn fr), ffeil awdurdod y BnF, dynodwr BnF 11903324d, Wikidata Q19938912, https://data.bnf.fr/, adalwyd 10 Hydref 2015
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://www.dbnl.org/tekst/coil001lexi01_01/lvdj00327.php#f022. retrieved: 16 Mawrth 2025.
- ↑ Rhyw: Bibliothèque nationale de France (yn fr), ffeil awdurdod y BnF, dynodwr BnF 11903324d, Wikidata Q19938912, https://data.bnf.fr/, adalwyd 10 Hydref 2015 Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, GND 120490706, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 14 Mehefin 2024
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 "Paula Fox". SNAC. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Paula Fox". Find a Grave. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. archive URL: https://web.archive.org/web/20160401160937/http://jeugdliteratuur.org/auteurs/paula-fox. "Paula Fox". ISFDB. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Paula Fox". FemBio database. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Paula Fox". Solomon R. Guggenheim Museum. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Paula Fox". Brockhaus Enzyklopädie. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Paula Fox". ffeil awdurdod y BnF. "Paula Fox". GeneaStar. (yn ru) ПроДетЛит, 17 Medi 2019, Wikidata Q124821483, https://prodetlit.ru/
- ↑ Dyddiad marw: https://www.nytimes.com/2017/03/03/books/paula-fox-dead.html?_r=1. "Paula Fox". Find a Grave. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Paula Fox". ISFDB. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Paula Fox". FemBio database. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Paula Fox". Solomon R. Guggenheim Museum. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Paula Fox". Brockhaus Enzyklopädie. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Paula Fox". ffeil awdurdod y BnF. (yn ru) ПроДетЛит, 17 Medi 2019, Wikidata Q124821483, https://prodetlit.ru/
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 11 Rhagfyr 2014 archive URL: https://web.archive.org/web/20160401160937/http://jeugdliteratuur.org/auteurs/paula-fox.
- ↑ Galwedigaeth: Lina Mainiero; Langdon Lynne Faust (1979) (yn en), American Women Writers, Wikidata Q106787730 Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, GND 120490706, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 20 Ebrill 2026
- ↑ Anrhydeddau: http://ala.org/alsc/newbery. (yn en) Guggenheim Fellows database, Guggenheim fellows ID paula-fox, Wikidata Q107425373, https://www.gf.org/fellows/
- ↑ http://ala.org/alsc/newbery.
- ↑ (yn en) Guggenheim Fellows database, Guggenheim fellows ID paula-fox, Wikidata Q107425373, https://www.gf.org/fellows/