Kénitra
| Math | dinas, cymuned drefol Moroco, dinas fawr |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Louis-Hubert Lyautey |
| Poblogaeth | 507,736 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Aziz Rabbah |
| Gefeilldref/i | Salfit, Gaziantep |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 650 km² |
| Uwch y môr | 26 metr |
| Cyfesurynnau | 34.25°N 6.58°W |
| Cod post | 14000 |
| Pennaeth y Llywodraeth | Aziz Rabbah |
![]() | |
Dinas ym Moroco yw Kénitra (Arabeg: القنيطرة Al-Qonaitirah, "Y Bont Fach"), a adnabyddid yn y gorffennol fel Port Lyautey. Mae'n borthladd sy'n gorwedd wrth aber Afon Sebou, ar lan Cefnfor Iwerydd yng ngogledd-orllewin Moroco. Mae'n brifddinas Gharb-Chrarda-Béni Hssen, un o 16 rhanbarth Moroco. Poblogaeth: tua 374,000 (2005).
Er bod y Ffeniciaid wedi ymsefydlu yn agos i safle y ddinas, yn Chellah, doedd dim byd ond kasbah (castell) ar y safle tan 1912-13, pan sefydlwyd porthladd milwrol Port Lyautey gan Ffrainc.
Ceir dwy orsaf trenau yn y ddinas: Kenitra-Ville a Kenitra-Medina. Mae gwasanaeth trên gwennol, y TNR, yn rhedeg bob 30 munud i gysylltu Kénitra â Rabat, i'r gogledd, a Casablanca i'r de. Bwriedir agor gwasanaeth cyflym i Tangier erbyn tua 2013.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Arabeg) (Ffrangeg) Gwefan Kénitra Archifwyd 2021-01-24 yn y Peiriant Wayback
- Lexicorient Archifwyd 2005-02-07 yn y Peiriant Wayback
