Neidio i'r cynnwys

Howard Hawks

Oddi ar Wicipedia
Howard Hawks
Ganwyd30 Mai 1896 Edit this on Wikidata
Elkhart County, Goshen Edit this on Wikidata
Bu farw26 Rhagfyr 1977 Edit this on Wikidata
o strôc Edit this on Wikidata
Palm Springs Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Cornell
  • Coleg Peirianneg Prifysgol Cornell
  • Academi Phillips Exeter
  • Polytechnic School
  • Pasadena High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethsgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm, actor, hedfanwr, golygydd ffilm, cyfarwyddwr, ysgrifennwr, cynhyrchydd, sgriptiwr ffilm Edit this on Wikidata
TadFrank Winchester Hawks Edit this on Wikidata
MamHelen Howard Edit this on Wikidata
PriodAthole Shearer, Slim Keith, Dee Hartford Edit this on Wikidata
PlantKitty Hawks, David Hawks, Barbara Hawks, Gregg Hawks Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Anrhydeddus yr Academi, Seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata

Cyfarwyddwr, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilmiau o'r Unol Daleithiau yn ystod Oes Aur Hollywood oedd Howard Winchester Hawks (30 Mai 1896 – 26 Rhagfyr 1977). Dywedodd y beirniad Leonard Maltin taw Hawks yw'r "cyfarwyddwr Americanaidd gorau nad yw'n enw cyfarwydd".[1]

Cyfarwyddwr eang ei faes oedd Hawkes a greodd ffilmiau mewn amryw o fathau: comedi, drama, trosedd a gangsteriaid, gwyddonias, film noir, a'r Gorllewin Gwyllt.[2] Ymhlith ei ffilmiau poblogaidd mae Scarface (1932), Bringing Up Baby (1938), Only Angels Have Wings (1939), His Girl Friday (1940), To Have and Have Not (1944), The Big Sleep (1946), Red River (1948), The Thing from Another World (1951), a Rio Bravo (1959). Rhoddid ei enw ar fath o gymeriad benywaidd bengaled a chadarn ei hiaith, "y ddynes Hawksaidd".[2]

Cafodd Hawks ei enwebu am Wobr yr Academi am y Cyfarwyddwr Gorau ym 1942 am ei ffilm Sergeant York, ac ym 1975 enillodd Wobr yr Academi er Anrhydedd am fod yn "wneuthurwr ffilmiau Americanaidd â'i ymdrechion creadigol yn uchel eu parch yn sinema'r byd".[3] Cafodd ddylanwad ar gyfarwyddwyr o fri megis Martin Scorsese, Robert Altman, John Carpenter, a Quentin Tarantino.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Crouse, Richard. "Reel Winners: Movie Award Trivia" (Dundurn, Hydref 2005), t. 250. Adalwyd 26 Gorffennaf 2016.
  2. 1 2 Wheeler Winston Dixon and Gwendolyn Audrey Foster, A Short History of Film (New Brunswick, NJ: Rutgers University Press) p. 99—101. ISBN 978-0-8135-4270-6.
  3. ↑ "Awards." Archifwyd 2004-01-07 yn y Peiriant Wayback IMDb. Adalwyd 1 Gorffennaf 2016.

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • Branson, Clark. Howard Hawks, A Jungian Study. Santa Barbara, Califfornia: Garland-Clarke Editions, 1987.
  • Liandrat-Guigues, Suzanne. Red River. Llundain: BFI Publishing, 2000.
  • McBride, Joseph. Hawks on Hawks. Berkeley, Califfornia: University of California Press, 1982.
  • McBride, Joseph (ed). Focus on Howard Hawks. Efrog Newydd: Prentice-Hall, Inc, 1972.
  • Pippin, Robert B. Hollywood Westerns and American Myth: The Importance of Howard Hawks and John Ford for Political Philosophy. New Haven, Connecticut: Yale University Press, 2010.
  • Wood, Robin. Howard Hawks. Llundain: Secker & Warburg, 1968. London: British Film Institute, 1981, revised with addition of chapter "Retrospect". New Edition, Detroit, Michigan: Wayne State University Press, 2006.
  • Wood, Robin. Rio Bravo. Llundain: BFI Publishing, 2003
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: