Gardas
| Math | cyfwisg |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02qb149 |
Mae'r gardas, hefyd coesrwym[1] yn eitem o ddillad sy'n cynnwys band cul o ffabrig wedi'i glymu o amgylch y goes i gadw hosanau i fyny. Yn y 18g i'r 20g, roeddent yn cael eu clymu ychydig o dan y pen-glin, lle mae'r goes fwyaf main, i atal y hosan rhag llithro. Y gardas hefyd yw'r arwydd fwyaf anrhydeddus o urddau’r marchogion ym Mhrydain, fel gwelir gydag Urdd y Gardas. Gyda dyfodiad elastig i ddal hosan i fyny, bu lleihad mawr yn y defnydd o'r gardas, ond fe'i hystyrir yn aml fel dilledyn rhywiol.
Ceir y cyfeiriad cofnodedig cynharaf i'r gair 'gardas' yn y Gymraeg mewn cywydd gan Iolo Goch yn y 14g lle gwelir y cwmpled, "A gardas amlwg eurdeg / Ar lawnt aur ar ei lin teg".[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]
Dechreuodd pobl wisgo gardasau yn y 14g. Yn wreiddiol, roedd gardasau yn rhubanau wedi'u haddurno a'u brodio'n gyfoethog ac yn gymhleth a oedd yn cael eu clymu o dan y pen-glin i ddal y trowsus yn eu lle, i atal y trowsus rhag llacio. Roedd gardasau'n cyflawni'r un swyddogaeth yn ddiweddarach, pan gafodd trowsus hir eu disodli gan hosanau wedi'u gwau.
Ar ôl dyfeisio elastig ddiwedd y 19g, cafodd gardasau eu disodli gan garteri fertigol ynghlwm wrth gorsets, yn ddiweddarach wrth wregysau. Dim ond at addurniadau y defnyddir garteri addurnedig, elastig, siâp cylch heddiw.
Urdd y Gardas
[golygu | golygu cod]
Sefydlwyd Urdd y Gardas ym 1348 gan Frenin Lloegr Edward III. Yn ôl hanesyn, dywedir bod y brenin wedi dawnsio yn ystod dawns gydag Iarlles Caersallog, a gafodd yr anffawd o golli garter a oedd yn dal ei throwsus i fyny. Daeth y brenin yn destun gwawd pan gododd y gardas, codi ffrog yr iarlles, a'i roi yn ôl o amgylch ei phen-glin. Yna tyngodd y byddai'n gwneud y gardas honno yn un a ddymunai'r holl ddynion ei arddel fel bathodyn anrhydedd gyda'r geiriau "honni soit qui mal y pense" ("cywilydd ar yr hwn sy'n meddwl yn ddrwg amdano"). Dywedwyd y geiriau yn y Ffrangeg, sef iaith llys Lloegr ar y pryd.
Mewn sawl gwlad Ewropeaidd a'r Unol Daleithiau, mae wedi bod yn arfer priodas i'r briodferch daflu un neu ddau gardas i un o'r gwesteion.[2]
Sysbendars a'r gardas
[golygu | golygu cod]Mae sysbendars[3] neu gwregysau crog, a elwir hefyd yn "garter belts" yn yr Unol Daleithiau, yn ddillad isaf sy'n cynnwys stribed deunydd elastig sydd fel arfer o leiaf 5.1 i 7.6cm o led. Mae dau neu dri sling crog elastig ynghlwm ar bob ochr, lle mae'r deunydd wedi'i siapio i gyfuchliniau'r corff. Fel arfer, mae'r gwregysau crog yn cael eu clipio i hosanau gyda chlipiau metel lle mae disg rwber yn cael ei fewnosod trwy'r deunydd hosan gan gloi'r hosan yn ei lle yn effeithiol. Fel arfer, mae'r rhain ynghlwm wrth ddarn o elastig sy'n caniatáu addasu.
Fel arfer, gwisgir gwregysau crog (gardas) wrth y canol neu ychydig islaw i atal y gwregys rhag llithro i lawr wrth iddo gael ei dynnu i lawr gan y hosanau. Gall rhai dillad isaf fel corselettes neu wregysau ddod gyda slingiau crog ynghlwm.
Erbyn diwedd yr 20g a dechrau'r 21g, roedd y pantyhose neu deits yn cael eu gwisgo'n fwy cyffredin na hosanau.[4]
Y Gardas mewn diwylliant gyfoes
[golygu | golygu cod]Ers canol yr 20g, mae 'cylchgronau oedolion' neu bornograffig yn cynnwys delweddau o fenywod mewn dillad isaf. Esblygodd y cylchgronau hyn o bosteri pin-yp ac yn aml yn arddangos modelau mewn syspenders a hosanau, fel arfer gyda slipiau, peisiau, corsets, neu bra a nicers neu panties.[5] Mae gan y rhan fwyaf o ddelweddau elfen erotig ac weithiau cânt eu cyflwyno fel ffasiwn fetish a math o bornograffi. Fel gemwaith, pwrpas gardas a dillad isaf eraill mewn cyfryngau oedolion tynnu sylw at rannau penodol rhywiol o gorff y gwisgwr.[6]
Ym 1982 rhyddhawyd y nofel Lace gan yr awdures Brydeinig, Shirley Conran, gyda strategaeth hyrwyddo oedd yn cynnwys rhoi gardesau wedi'u brodio â'r teitl mewn aur, ynghyd â chopïau o'r "bonclyfr" ei hun.[7] Ar ôl rhyddhau'r ffilm Bull Durham gyda Kevin Costner a Susan Sarandon ym mis Mehefin 1988, cynyddodd gwerthiant gwregysau gardas a hosanau yn siopau 'Victoria's Secret' a 'Frederick's of Hollywood'. Priodolodd y manwerthwyr dillad isaf y cynnydd mewn gwerthiant i'r gardas les ddu a wisgodd Sarandon yn y ffilm.[8][9] Roedd ffilmiau eraill y flwyddyn honno, fel Dangerous Liaisons a Working Girl, hefyd yn tanio'r diwydiant dillad personol.[10]
Arall
[golygu | golygu cod]Yn ôl ei hatgofion ei hun, defnyddiodd Bertha Benz, gwraig blaenarwr y diwydiant ceir, ei gardas i atgyweirio nam tanio ar ei char Benz Patent-Motorwagen Rhif 3 yn ystod ym mis Awst 1888.[11] Mae Llwybr Coffa Bertha Benz yn coffáu'r daith hanesyddol hon heddiw.[12]
Oriel
[golygu | golygu cod]- Dynes gyda gardasau o dan ei chliniau, diwedd y 15g
- Robespierre trowsus culotte a gardas
- Siarl II, brenin Lloegr yn gwisgo gardas Urdd y Gardas o amgylch ei glin chwith
- Gardas priodas o gylch gwydryn fel rhan o ddathliadau priodasol
- Gardas wedi ei dal gan sysbendars, daeth yn boblogaidd yn yr 20g, ac, erbyn ail hanner yr 20g, yn arbennig mewn cyd-destun rhywiol
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 gardas. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 26 Awst 2026.
- ↑ "What is the Tradistion behind the Wedding Garter?". Britten Weddings. Cyrchwyd 26 Awst 2026.
- ↑ sysbendar. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar {{{dyddiadcyrchiad}}}.
- ↑ Blanco, José F.; Hunt-Hurst, Patricia Kay; Lee, Heather Vaughan; Doering, Mary, gol. (23 Tachwedd 2015). Clothing and Fashion: American Fashion from Head to Toe. Bloomsbury Publishing. t. 268.
- ↑ Snodgrass, Mary Ellen (17 Mawrth 2015). World Clothing and Fashion: An Encyclopedia of History, Culture, and Social Influence. Taylor & Francis. t. 457.
- ↑ Kaite, Berkeley (22 Tachwedd 1995). Pornography and Difference. Indiana University Press. t. 121.
- ↑ "Shirley Conran, Author Best Known for the Steamy 'Lace,' Dies at 91" (yn Saesneg). 22 Mai 2024. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Mai 2024. Cyrchwyd 8 Mawrth 2026.
- ↑ Abcarian, Robin (27 Gorffennaf 1988). "Garter Belts on the up and Up". Chicago Tribune. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2023.
- ↑ "Sarandon Gives the Garter Belt Shot in the Arm". Orlando Sentinel. 6 Awst 1988. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2023.
- ↑ Faludi, Susan (1991). Backlash: The Undeclared War Against American Women. Crown Publishing Group. t. 200.
- ↑ "Reparaturen mit Haarnadel und Strumpfband". bertha-benz.de. Cyrchwyd 9 Ionawr 2024.
- ↑ Bertha Benz Memorial Route. bertha-benz.de
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- What is a Garter? Fideo am gardas a sysbendars (2017)