Dulwich
| Math | ardal o Lundain |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Southwark |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.4457°N 0.0779°W |
| Cod OS | TQ345725 |
![]() | |
Ardal faestrefol ym Mwrdeistref Llundain Southwark, Llundain Fwyaf, Lloegr, yw Dulwich.[1] Mae Dulwich mewn dyffryn rhwng ardaloedd Camberwell (i'r gogledd), Crystal Palace, Denmark Hill, Forest Hill, Peckham, Sydenham Hill, a Tulse Hill.
Roedd Dulwich wedi bod yn bentrefan y tu allan i Lundain ers cyn Concwest Normanaidd Lloegr. Yma, ar ddechrau'r 17g, y sefydlodd yr actor Edward Alleyn (1566–1626) y "College of God's Gift" (elwir bellach "the Old College" - yr Hen Goleg) a thyfodd y pentref o'i gwmpas. Mae'r Hen Goleg yn berchen ar y rhan fwyaf o'r tir yn yr ardal a elwir heddiw yn Ystâd Dulwich. Sefydlwyd y Coleg i hyrwyddo amcanion addysgol ac elusennol, ac yn y 19g sefydlodd y Coleg dair ysgol breifat fawr, sef Coleg Dulwich[2], Ysgol Alleyn[2] ac Ysgol Merched James Allen.
Yr ardal yw lleoliad yr oriel bwysig Dulwich Picture Gallery.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 9 Mehefin 2025
- 1 2 Hodges, S. (1981), God's Gift: A Living History of Dulwich College, pp. 3–5 (Heinemann: London).
