Neidio i'r cynnwys

Cross Ash

Oddi ar Wicipedia
Cross Ash
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.873°N 2.863°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO407197 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y SeneddSir Fynwy Torfaen
Etholaeth y DUCatherine Fookes (Llafur)
Map

Pentref yng nghymuned Ynysgynwraidd, Sir Fynwy, Cymru, yw Cross Ash[1][2] neu Croes Onnen.[3][4] Saif mewn ardal wledig yng ngogledd-ddwyrain y sir, ar ffordd y B4521 rhwng Y Fenni ac Ynysgynwraidd.

Yr enw Cymraeg yw'r enw gwreiddiol ar yr ardal yn ôl cofnodion mapiau hanesyddol o hanner cyntaf y 19eg ganrif.[4][5] 'Croesffordd gydag onnen' yw ystyr yr enw.[6]

Yn 2004 ychwanegwyd yr enw "Croes Onnen" at arwyddion ffyrdd y tu allan i'r pentref er mwyn eu dwyieithogi. Er ymddengys taw hwn yw'r enw gwreiddiol ar yr ardal,[4] mynnodd ymgyrchwyr lleol nad oedd sail hanesyddol iddo a’i fod yn fathiad diangen, a chwyno na fu unrhyw ymgynghori â phentrefwyr.[7][8] Llwyddodd yr ymgyrchwyr i gael yr enw Cymraeg wedi'i dynnu o'r arwyddion yn 2011.[9] Ailgyflwynwyd yr enw Cymraeg i brif stryd y pentref yn 2021 pan osodwyd arwydd ysgol newydd gan yr ysgol gynradd.[3] "Cross Ash" yw'r ffurf sy'n ymddangos ar restr Enwau Lleoedd Safonol Cymru a gyhoeddir gan Gomisiynydd y Gymraeg.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. ↑ British Place Names; adalwyd 27 Rhagfyr 2021
  3. 1 2 "Arwydd Ysgol Gynradd Croes Onnen". Twitter. 6 Medi 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Chwefror 2022.
  4. 1 2 3 Budgen, Charles (1813). "Darluniau'r Arolwg Ordnans: Wysg". Y Llyfrgell Brydeinig. Cyrchwyd 17 Chwefror 2022.
  5. ↑ "Map degwm Ynysgynwraidd". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 1842. Cyrchwyd 18 Chwefror 2022.
  6. ↑ Owen, Hywel Wyn (2007). Dictionary of the place-names of Wales. Richard Morgan. Llandysul: Gwasg Gomer. ISBN 978-1-84323-901-7. OCLC 191731809.
  7. ↑ Nicholas, Roy (24 Chwefror 2011). "Don't blame the Welsh Language Board". Monmouthshire Beacon. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Chwefror 2022.
  8. ↑ Brendan Hughes (1 Mehefin 2011). "Villages' Welsh names painted out by council". Western Mail. Cyrchwyd 1 Mehefin 2011.
  9. ↑ "Rockfield and Cross Ash signs have Welsh names removed". BBC News. 1 Mehefin 2011. Cyrchwyd 1 Mehefin 2011.