Neidio i'r cynnwys

Canfasio

Oddi ar Wicipedia
Canfasio
Matho ddrws i ddrws, ymgyrch etholiadol, ymgyrch wleidyddol, propaganda Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/036hrx edit this on wikidata
QuoraCanvassing edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Canfasio yw'r system o geisio cefnogaeth drwy ddod i gyswllt uniongyrchol ag unigolion. Mae hyn fel arfer yn digwydd yn ystod ymgyrchoedd gwleidyddol i ofyn am bleidleisiau mewn etholiad sydd i ddod. Mae gweithgareddau canfasio yn cael eu cynnal at nifer o ddibenion eraill, gan gynnwys codi arian ar lawr gwlad, ymwybyddiaeth gymunedol, ymgyrchoedd aelodaeth, ac yn y blaen.[1] Bydd ymgyrchwyr yn curo ar ddrysau i gysylltu â pherson yn bersonol. Fe'i defnyddir gan bleidiau gwleidyddol a grwpiau materol i nodi cefnogwyr, perswadio'r rhai sydd heb benderfynu, ychwanegu pleidleiswyr i restr pleidleiswyr drwy gofrestru pleidleiswyr, ac mae'n ganolog i ddenu'r bleidlais.

Daeth canfasio gwleidyddol yn offeryn canolog ar gyfer ymgyrchoedd etholiadol yng ngwledydd Prydain, ac mae wedi aros yn weithgaredd craidd sy'n cael ei gyfawni gan filoedd o wirfoddolwyr cyn pob etholiad, ac mewn nifer o wladwriaethau sydd wedi tarddu o'i system wleidyddol. Mae'n llai cyffredin mewn ymgyrchoedd democrataidd Cyfandir Ewrop a Dwyrain Asia.

Gall canfasio hefyd gyfeirio at y modd y mae'r heddlu yn mynd ymweld â chartrefi mewn cymdogaeth yn ystod ymchwiliad. Mae canfasio yn y gymdogaeth yn ddull systematig o gyfweld â thrigolion, masnachwyr ac eraill sydd yng nghyffiniau trosedd ac a allai fod ganddynt wybodaeth ddefnyddiol.[2]

Tarddiad y term yw'r weithred o hidlo trwy ysgwyd rhywbeth mewn cynfas, sef trafod yn drylwyr.[3]

Ceir enghreifftiau cynnar o ganfasio yn etholiadau Gweriniaeth y Rhufeiniaid. Yn yr ymgyrchoedd hynny byddai ymgeiswyr yn ysgwyd llaw pob pleidleisiwr cymwys yn y Fforwm. Yn sibrwd yng nghlust rhai ymgeiswyr byddai enwadur, sef caethwas a oedd wedi'i hyfforddi i gofio enwau pob pleidleisiwr, fel y gallai'r ymgeisydd eu cyfarch yn ôl eu henwau i gyd.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. James-Harvill, Jordan. "What is Canvassing?" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-03. Cyrchwyd 2017-06-30.
  2. Swanson, Chamelin, Territo, Charles R., Neil C., Leonard. Criminal Investigation, 8/e. McGraw Hill.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  3. Wikisource Chisholm, Hugh, gol. (1911). "Canvass". Encyclopædia Britannica (arg. 11th). Cambridge University Press.
  4. Vishnia, Rachel Feig (12 Mawrth 2012). Roman Elections in the Age of Cicero: Society, Government, and Voting. Routledge. t. 112. ISBN 978-1-136-47871-0.