Neidio i'r cynnwys

Artemis II

Oddi ar Wicipedia
Artemis II
Portread swyddogol criw Artemis II, o'r chwith, gyda'r cloc: Koch, Glover, Hansen and Wiseman
Enwau
  • Artemis 2
  • Exploration Mission-2 (EM-2)
Math o daithHedfan o amgylch y lleuad efo criw ynddo
Corff neu gwmni rheoliNASA
Hyd y daith9 diwrnod, 1 awr, 32 munud a 15 eiliad
Pellter a deithiwyd694,481 milltir (1,117,659 km)
Manylion y cerbyd
Cerbyd gofodCM-003 Integrity
Alldaith
Cychwynwyd1 Ebrill 2026
Gofodwyr
Nifer y gofodwyr4
Aelodau
Cychwyn y daith
Dyddiad lansio22:35:12 UTC 1 Ebrill 2026
RocedSpace Launch System Block 1
Safle lansioCanolfan Ofod Kennedy
Diwedd y daith
Adenillwyd ganLlynges yr Unol Daleithiau
Dyddiad glanio10 Ebrill 2026, 22:35:12 y.h. UTC
Man lle glanioddY Cefnfor Tawel

Insignia'r rhaglen
Rhaglen Artemis
 Artemis 1 Artemis III

Taith i'r Lleuad oedd Artemis II (1-10 Ebrill 2026), wnaeth hedfan o amgylch y Lleuad. Mae'n rhan o raglen Artemis, sydd yn bwriadu creu lle parhaol i fyw a gweithio ar y lleuad.[1][2] Lansiodd y roced yn llwyddiannus o Cape Canaveral yn Florida am 22:35:12 UTC (6:35:12 yh EDT, amser lleol) ar 1 Ebrill 2026. Dyma oedd y tro cyntaf i griw teithio yn llong ofod Orion, a gafodd ei henwi'n Integrity gan y criw.[3] Dyma oedd y tro cyntaf i long ofod a chriw ynddi fynd i'r Lleuad ers Apollo 17 yn 1972.[4][5]

Victor Glover oedd y person croenliw cyntaf, a Christina Koch oedd y fenyw gyntaf, a Jeremy Hansen oedd y person anamericanaidd cyntaf erioed i hedfan yn bellach nag orbit isel y Ddaear.[6] Mae'r daith hefyd wedi mynd â phobl yn bellach i'r gofod nag erioed o'r blaen gan fynd mor bell â 252,757 o filltiroedd.[7] Torrwyd record Apollo 13 o 1970 o 248,655 milltir.[8]

Y daith

[golygu | golygu cod]

I baratoi ar gyfer y daith, cafodd dros 700,000 galwyn o danwydd ei lwytho i'r llong ofod, ac roedd y gofodwyr wedi cyrraedd y capsiwl nifer o oriau o flaen llaw.[9] Lansiodd y roced a oedd yn 322 troedfedd o hyd am 22:35:12 UTC o Ganolfan Ofod Kennedy ar 1 Ebrill 2026. Roedd y capsiwl wedi cylchdroi'r Ddaear am tua 25 awr cyn anelu am y Lleuad.[10]

Yr agosaf cyrhaeddodd y criw at wyneb y lleuad oedd 4,067 milltir. Collodd y criw gysylltiad gyda'r ddaear am 40 munud wrth basio'r lleuad rhwng 22:46 UTC a 23:24 UTC.[11]

Ail-ymunodd Orion ag atmosffer y Ddaear tra'n symud ar gyflymder o 24,661 milltir yr awr (39,688 km/awr). Glaniodd y llong ofod yn y Cefnfor Tawel ger San Diego, lle roedd Llynges yr Unol Daleithiau yn cwrdd â nhw.

Y gofodwyr

[golygu | golygu cod]
Chwith i dde:Jenni Gibbons, Andre Douglas, Jeremy Hansen, Christina Koch, Victor Glover, Reid Wiseman

Cyhoeddodd NASA enwau'r gofodwyr a fyddai'n hedfan llong ofod Orion ar 3 Ebrill 2023.[12]

Y criw
Rôl Gofodwr
Prif ofodwr UDA Reid Wiseman, NASA

Ail daith ofod

Peilot UDA Victor Glover, NASA

Ail daith ofod

Gofodwr arbenigol 1 UDA Christina Koch, NASA

Ail daith ofod

Gofodwr arbenigol 2 Canada Jeremy Hansen, CSA

Taith ofod gyntaf

Criw wrth-gefn
Rôl Gofodwr
Gofodwr arbenigol UDA Andre Douglas, NASA
Gofodwr arbenigol Canada Jenni Gibbons, CSA

Cysylltiadau â Chymru

[golygu | golygu cod]

Defnyddiwyd technoleg cwmni laser 'Spectrum Technologies' o Ben-y-bont ar Ogwr ar gyfer y daith.[13] Mae peiriannau'r cwmni yn defnyddio lasers i brintio rhifau a llythrennau ar wifrau, ac roedd rhai o'u gwifrau nhw yng nghapsiwl Orion.[14]

Mae'r cwmni hefyd yn gweithio gyda SpaceX.

Ymgysylltu â'r cyhoedd

[golygu | golygu cod]

I gael mwy o sylw gan y cyhoedd, crëwyd gwefan gan NASA i alluogi i unrhywun gael cofrodd o docyn teithio digidol. Roedd enwau'r bobl a gafodd docyn hefyd wedi cael eu cofnodi ar gerdyn SD oedd wedi cael ei roi yng nghapsiwl Orion ar gyfer y lansiad.[15]

Ar 4 Mawrth 2026, cyhoeddwyd bwydlen y gofodwyr ar gyfer y daith.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "NASA's Artemis Moon Missions: all you need to know". www.rmg.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Chwefror 2026.
  2. Cymru, Prifysgol De (2 Ebrill 2026). "Heriau diarth oedd bywyd ar y Lleuad". Prifysgol De Cymru. Cyrchwyd 11 Ebrill 2026.
  3. "Gofodwyr yn 'barod i fynd' ar y daith gyntaf heibio'r Lleuad ers 50 mlynedd". newyddion.s4c.cymru. 31 Mawrth 2026. Cyrchwyd 31 Mawrth 2026.
  4. "Dros Ginio - 'Ma'n hynod o gyffrous a dwi'n mynd i ddilyn gwefan NASA i smalio bod fi yno efo nhw!' - BBC Sounds". BBC. Cyrchwyd 3 Ebrill 2026.
  5. "Artemis II: Disgwyl i'r llong ofod deithio heibio'r Lleuad". newyddion.s4c.cymru. 6 Ebrill 2026. Cyrchwyd 7 Ebrill 2026.
  6. "Our Artemis Crew - NASA" (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Chwefror 2026.
  7. "Artemis II live updates as crew breaks Apollo 13 distance record before moon flyby". www.cbsnews.com. 6 Ebrill 2026. Cyrchwyd 6 Ebrill 2026.
  8. "Llong ofod Artemis II yn dychwelyd o du hwnt i'r Lleuad". newyddion.s4c.cymru. 7 Ebrill 2026. Cyrchwyd 7 Ebrill 2026.
  9. "Taith hanesyddol Artemis II i'r Lleuad yn gadael Florida yn llwyddiannus". newyddion.s4c.cymru. 2 Ebrill 2026. Cyrchwyd 2 Ebrill 2026.
  10. "'Rhyfeddol': Roced Artemis II wedi gadael orbit y Ddaear". newyddion.s4c.cymru. 3 Ebrill 2026. Cyrchwyd 4 Ebrill 2026.
  11. "Llong ofod Artemis II yn dychwelyd i'r Ddaear ar ôl teithio heibio'r Lleuad". newyddion.s4c.cymru. 11 Ebrill 2026. Cyrchwyd 11 Ebrill 2026.
  12. "'Fly me to the moon': Artemis II crew announced". Boeing. 3 Ebrill 2023. Cyrchwyd 11 Ebrill 2026.
  13. "Artemis II space mission leaves Welsh firm 'over the moon'". BBC News (yn Saesneg). 9 Ebrill 2026. Cyrchwyd 11 Ebrill 2026.
  14. "Welsh company is playing key role in Artemis II mission". Business Live (yn Saesneg). 10 Ebrill 2026. Cyrchwyd 11 Ebrill 2026.
  15. Moskowitz, Clara. "Your Name Could Be Part of NASA's Next Lunar Adventure". Scientific American (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 Ebrill 2026.